Dymchwel y muriau - Bringing Down the Barriers (Welsh)
cyflwyniad
dymchwel y muriau
cyflwyniad
Rwy’n hynod falch o Ddatganiad Addysg yr NUT, ‘Dymchwel y Muriau’.
Rwy’n credu bod ei bolisïau
a’i argymhellion yn creu strategaeth bwerus ar gyfer addysg yng Nghymru ar gyfer y pum mlynedd
nesaf o leiaf, os nad mwy.
Mae’r Datganiad wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhraddodiadau a hanes
yr NUT. Mae gan yr NUT
gyfoeth aruthrol o wybodaeth a phrofiad yn sylfaen gadarn i’w waith. Ers dros 130 o flynyddoedd,
mae gan yr NUT record unigryw o hybu cynnydd positif mewn addysg. Mae ein polisïau wedi
gwella bywydau plant a phobl ieuainc a’u hathrawon.
Seilir ‘Dymchwel y Muriau’ ar waith ymchwil a thystiolaeth drwyadl. O’i fabwysiadu, rydym yn
credu y bydd yr argymhellion yn gwella’r addysg a ddarperir i blant a phobl
ieuainc.
Yn wir, mae’n rhaid i athrawon deimlo eu bod yn gallu cyfrannu at y drafodaeth ynghylch sut gall
addysg wella bywydau plant a phobl ifanc yn yr economi fyd-eang.
Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu oddi wrth systemau addysg yn rhyngwladol, ac yn gweithio
gyda hwy. Gallwn ddysgu oddi wrth eu datblygiadau hwy, a chyfrannu atynt.
Mae ‘Dymchwel y Muriau’ yn cynrychioli llais aelodau yr NUT a holl aelodau’r proffesiwn addysgu.
Mae ar gyfer pawb sy’n ymwneud ag addysg a chymunedau ysgolion; rhieni a phobl ieuainc,
athrawon a phawb sy’n gweithio mewn ysgolion. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd ein argymhellion,
a’r egwyddorion maent yn seiliedig arnynt, yn berthnasol i gynulleidfa eang, nid dim ond y rhai
sy’n gysylltiedig â’r byd addysg.
Hoffwn dderbyn eich safbwyntiau a’ch barn am y ddogfen hon. Rwy’n cymeradwyo
‘Dymchwel y Muriau’ ac yn edrych ymlaen at drafodaeth iach ynghylch yr argymhellion.
Steve Sinnott,
ysgrifennydd cyffredinol yr NUT








