NUT yn croesawu llwyddiant arholiadau - datganiad i'r wasg
Wrth nodi ei sylwadau ar ganlyniadau Safon Uwch a’r Fagloriaeth Gymreig, dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Evans:
“Mae’r llwyddiant a ddaeth i ran ein disgyblion yn arholiadau Safon Uwch a chymhwyster y Fagloriaeth Gymreig yn dyst bod safonau addysg a chyrhaeddiad yn parhau i gynyddu yng Nghymru. Mae’r cynnydd sylweddol yn y nifer o fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs y Fagloriaeth Gymreig yn dangos y brwdfrydedd sydd gan ein pobl ifainc dros ennill cymhwyster sydd yn bwysig iawn i gyflogwyr. Mae cyfuniad canlyniadau Safon Uwch a’r Fagloriaeth Gymreig yn iach iawn o’i gymharu â chymwysterau tebyg eraill.
“Yn naturiol, mae yma rai meysydd sydd yn peri ychydig ofid. Mae ystyried yn ddwys y rhesymau pam fod y niferoedd sy’n dilyn cyrsiau mewn Ieithoedd Tramor Modern a Chymraeg fel Ail Iaith, er enghraifft, yn gostwng yn hanfodol. Dylai hyn fod yn achos pryder i’r Gweinidog Addysg.
“Mae angen i ni dderbyn hefyd bod ein myfyrwyr yn astudio mewn awyrgylch ble mae pwysau cynyddol i lwyddo. Mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn pwysleisio’r angen am lefel uchel o addysg yn hwyrach mewn bywyd, tra ar yr un pryd mae’r nifer o lefydd mewn prifysgolion yn gostwng. Mae’r sefyllfa yn tanlinellu’r cystadleuaeth wrth ymgeisio am lefydd a’r pwysau sy’n cael ei roi ar ein pobl ifainc.
“Unwaith yn rhagor, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo yn wyneb diffygion ariannu. Mae’r canran o fyfyrwyr sy’n derbyn cymwysterau Safon Uwch yn cymharu’n ffafriol gyda’n cymdogion agosaf ond mae’r problemau ariannu wedi effeithio ar y rhai fyddai’n derbyn y graddau uchaf sef A*, A a B.
“Yn wyneb y trafferthion ariannol, does dim amheuaeth bod ysgolion yng Nghymru yn llwyddo’n dda a bod yr athrawon yn llwyddo i annog ein pobl ifainc i ddangos eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd i ddysgu. Rhaid i ni ddathlu’r llwyddiannau hyn.“
| Attachment | Size |
|---|---|
| Canlyniadau-Lefel-*a'r-Fagloriaeth-Gymreig.doc | 199KB |








